Share
Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig: Ffiniau Rhufeinig Cymru
David J. Breeze
(Author)
·
Peter Guest
(Author)
·
Archaeopress Publishing
· Paperback
Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig: Ffiniau Rhufeinig Cymru - Breeze, David J. ; Guest, Peter
£ 13.49
£ 14.99
You save: £ 1.50
Choose the list to add your product or create one New List
✓ Product added successfully to the Wishlist.
Go to My WishlistsIt will be shipped from our warehouse between
Thursday, May 30 and
Friday, May 31.
You will receive it anywhere in United Kingdom between 1 and 3 business days after shipment.
Synopsis "Frontiers of the Roman Empire: The Roman Frontiers in Wales: Ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig: Ffiniau Rhufeinig Cymru"
Gyda'i gilydd, mae ffiniau'r Ymerodraeth Rufeinig yn ffurfio heneb fwyaf un o wladwriaethau mawr y byd. Maen nhw'n ymestyn am tua 7,500 cilometr drwy 20 gwlad sy'n amgylchynu Mor y Canoldir. Mae olion y ffiniau hyn wedi'u hastudio gan ymwelwyr, ac yn ddiweddarach gan archaeolegwyr, ers canrifoedd lawer. Mae llawer o'r arysgrifau a'r cerfluniau, arfau, crochenwaith ac arteffactau a grewyd ac a ddefnyddiwyd gan filwyr a phobl gyffredin a oedd yn byw ar y ffiniau, i'w gweld mewn amgueddfeydd. Atgof yr un mor gryf o rym colledig Rhufain yw olion ffisegol y ffiniau eu hunain. Nod y gyfres hon o lyfrau yw goleuo'r ymwelydd sydd a diddordeb am hanes y ffiniau ynghyd a bod yn ganllaw iddynt. Mae olion ffiniau Rhufeinig Cymru yn unigryw yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn wahanol i'r ffiniau llinellol amddiffynnol adnabyddus fel Mur Hadrian a Mur Antoninus yng ngogledd Prydain, bwriad caerau ac amddiffynfeydd gorllewin Prydain oedd creu ffin ymosodol ddeinamig i fynd i'r afael a brodorion ffyrnig. Nodwyd dros 60 o amddiffynfeydd a chaerau bach a mawr, o garreg a phren, rhai wedi cael eu defnyddio am rai blynyddoedd yn unig, ac eraill am gyfnod llawer hirach. Maen nhw'n adrodd hanes y rhyfel hir a milain yn erbyn y llwythau Celtaidd a pholisi'r fyddin, wedi'r fuddugoliaeth derfynol a chyflawn, o feddiannu trylwyr, pan leolwyd hyd at 25,000 o lengfilwyr a milwyr ategol yng Nghymru. Gobeithio y bydd darllenwyr y llyfr hwn yn mwynhau darganfod hanes diddorol y Rhufeiniad yn goresgyn Cymru bron i 2,000 o flynyddoedd yn ol.