Dyma'r ail stori am Wenfro! O, gwyn ein byd - a gwyrdd!, cynllun cynhwysfawr ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg - ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi Bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud.